Skip navigation

Ymarferwyr seicoleg

Daeth y safonau hyn yn weithredol ar 1 Medi 2023 gan ddisodli fersiynau blaenorol.

Mae’r safonau hyn yn amlinellu ymarfer diogel ac effeithiol yn y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio. Dyma’r safonau trothwy yr ydym yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

Mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol fodloni’r holl safonau hyfedredd er mwyn cofrestru â ni a bodloni’r safonau sy’n berthnasol i gwmpas eu hymarfer er mwyn parhau’n gofrestredig â ni.

Nodyn am yr hyn a ddisgwyliwn gennych

Rhaid i chi fodloni’r holl safonau hyfedredd er mwyn cofrestru â ni a bodloni’r safonau sy’n berthnasol i gwmpas eich hymarfer er mwyn parhau’n gofrestredig â ni.

Os oes amheuaeth yn cael ei fwrw ar eich ymarfer, byddwn yn ystyried y safonau hyn (a’r safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg) wrth benderfynu pa gamau gweithredu, os o gwbl, y bydd angen i ni eu cymryd.

Mae’r safonau hyfedredd yn ategu gwybodaeth a chanllawiau a gyhoeddir gan sefydliadau eraill, megis eich corff proffesiynol neu eich cyflogwr. Rydym yn cydnabod rôl werthfawr cyrff proffesiynol o ran darparu canllawiau a chyngor ynglŷn ag ymarfer da sy'n gallu eich helpu chi i fodloni’r safonau a geir yn y ddogfen hon.

Rydym hefyd yn disgwyl i’r rhai sy’n cofrestru fodloni safonau’r HCPC o ran ymddygiad, perfformiad a moeseg a safonau o ran datblygiad proffesiynol parhaus.

Cwmpas eich ymarfer

Cwmpas eich ymarfer yw’r maes neu’r meysydd yn eich proffesiwn y mae’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad gennych ynddynt i ymarfer yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol, mewn ffordd sy’n bodloni’r safonau ac nad yw’n creu unrhyw berygl i’r cyhoedd nac i chi’ch hunan.

Rydym yn sylweddoli y bydd cwmpas ymarfer rhywun sydd wedi cofrestru yn newid dros dreigl amser ac y bydd ymarfer unigolion profiadol sydd wedi cofrestru yn aml yn datblygu mwy o ffocws ac yn dod yn fwy arbenigol nag ymarfer cydweithwyr sydd newydd gofrestru.

Gallai hynny fod oherwydd arbenigedd mewn maes penodol neu gyda grŵp arbennig o gleientiaid, neu symud i rolau rheoli, addysgu neu ymchwil. Bob tro y byddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, gofynnir i chi lofnodi datganiad i gadarnhau eich bod yn parhau i fodloni’r safonau hyfedredd sy’n berthnasol i gwmpas eich ymarfer.

Gallai cwmpas penodol eich ymarfer olygu nad ydych yn gallu parhau i ddangos eich bod yn bodloni’r holl safonau perthnasol ar gyfer eich proffesiwn cyfan.

Cyn belled â’ch bod yn sicrhau eich bod yn ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol o fewn cwmpas penodol eich ymarfer ac nad ydych yn ymarfer yn y meysydd ble nad yw’r hyfedredd gennych i wneud hynny, ni fydd hyn yn broblem. Os byddwch chi'n dymuno camu allan o gwmpas eich ymarfer, dylech chi fod yn sicr bod y gallu gennych i weithio’n gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Golyga hyn fod angen i chi arfer barn bersonol drwy ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant angenrheidiol neu ennill profiad, cyn symud i faes newydd yn eich ymarfer.

Bodloni’r safonau

Mae hi’n bwysig eich bod yn bodloni’r safonau hyn ac yn gallu ymarfer yn gyfreithlon, yn ddiogel ac yn effeithiol. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi unrhyw orchmynion ynglŷn â sut y dylech fodloni’r safonau. Fel arfer, mae mwy nag un ffordd o fodloni pob un o’r safonau a gallai eich dull chi o fodloni’r safonau newid dros dreigl amser oherwydd gwelliannau o ran technoleg neu newidiadau yn eich ymarfer.

Byddwn yn aml yn cael cwestiynau gan rai sydd wedi cofrestru sy’n bryderus y gallai rhywbeth y gofynnwyd iddynt ei wneud, polisi, neu’r ffordd y maent yn gweithio olygu nad ydynt yn gallu bodloni’r safonau. Byddant yn aml yn poeni y galli hynny effeithio ar eu cofrestriad.

Fel gweithiwr proffesiynol ymreolus, mae angen i ci wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a rhesymeg ynglŷn â’ch ymarfer er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau sy’n berthnasol i chi.

Mae hynny’n cynnwys ceisio cyngor a chefnogaeth gan ddarparwyr addysg, cyflogwyr, cyrff proffesiynol, undebau ac eraill er mwyn sicrhau y caiff llesiant defnyddwyr y gwasanaeth ei ddiogelu bob amser. Cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny ac yn gallu cyfiawnhau eich penderfyniadau os gofynnir i chi wneud, mae’n annhebygol iawn na fyddwch chi’n bodloni’r safonau.

Iaith

Rydym yn sylweddoli bod y rhai sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio mewn ystod o leoliadau gwahanol, sy’n cynnwys ymarfer uniongyrchol, rheoli, addysg, ymchwil a rolau mewn diwydiant. Rydym hefyd yn sylweddoli y gall y defnydd o derminoleg fod yn fater sy’n cyhyrfu emosiynau.

Mae’r rhai sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio gyda phobl wahanol iawn ac yn defnyddio termau gwahanol i ddisgrifio’r grwpiau sy’n defnyddio’u gwasanaethau neu’n cael eu heffeithio ganddynt. Mae rhai o’r bobl sydd wedi cofrestru gyda ni yn gweithio gyda chleifion, eraill gyda chleientiaid ac eraill gyda defnyddwyr gwasanaethau. Bydd y termau y byddwch chi’n eu defnyddio yn dibynnu ar sut a ble byddwch chi’n gweithio. Rydym wedi defnyddio termau yn y safonau hyn sydd, yn ein tyb ni, yn adlewyrchu orau y grwpiau rydych chi’n gweithio gyda hwy..

Yn y safonau hyfedredd, rydym yn defnyddio ymadroddion megis ‘deall’ a ‘gwybod’. Mae hynny er mwyn i’r safonau barhau’n berthnasol i rai sydd wedi cofrestru ar y pryd o safbwynt cynnal eu haddasrwydd i ymarfer, yn ogystal â darpar aelodau o’r gofrestr nad ydynt wedi dechrau ymarfer eto ac sy’n gwneud cais i gofrestru am y tro cyntaf.


Safonau hyfedredd

Mae’r safonau hyn yn weithredol o 1 Medi 2023.

Mae’r safonau’n cynnwys elfennau generig, sy’n berthnasol i bawb sy’n cofrestru gyda ni, ac elfennau proffesiwn-benodol, sy’n berthnasol i’r rhai sydd wedi cofrestru sy’n perthyn i un o’r proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio.

Nid yw’r safonau’n hierarchaidd ac maent oll yr un mor bwysig o safbwynt ymarfer.

  • Mae’r safonau generig, sy’n berthnasol i bob proffesiwn, wedi’u hysgrifennu mewn print du, bras.
  • Mae’r safonau proffesiwn-benodol wedi’u hysgrifennu mewn print du, plaen.
  • Mae gan y safonau sy’n benodol i barthau eu penawdau eu hunain ac maent wedi’u hysgrifennu mewn print glas.

Ar adeg eu cofrestru, rhaid bod ymarferwyr seicoleg yn gallu:

Expand all


  • 1.1 gwybod lle mae terfynau eu hymarfer a phryd i geisio cyngor neu gyfeirio at weithiwr proffesiynol neu wasanaeth arall

    1.2 cydnabod yr angen i reoli eu llwyth gwaith a’u hadnoddau eu hunain yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys rheoli’r baich emosiynol sydd ynghlwm â gweithio mewn amgylchedd lle mae pwysau

    1.3 cadw eu sgiliau a'u gwybodaeth yn gyfredol a deall pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol eu gyrfa

     


  • 2.1 cynnal safonau uchel o ran ymddygiad personol a phroffesiynol

    2.2 hyrwyddo a diogelu buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth bob amser

    2.3 deall pwysigrwydd diogelu drwy edrych yn rhagweithiol am arwyddion o gam-drin, gan ddangos dealltwriaeth o brosesau diogelu perthnasol ac ymwneud â’r prosesau hynny ble bo angen

    2.4 deall beth mae Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal yn ei wneud yn ofynnol iddynt ei wneud, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg

    2.5 deall a chynnal hawliau, urddas, gwerthoedd ac ymreolaeth defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys eu rôl yn y broses asesu, diagnosio, trin a/neu therapi

    2.6 cydnabod y dylai perthnasoedd â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr ac eraill fod yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth gan y naill ochr a’r llall tuag at ei gilydd, gan gynnal safonau uchel o ofal ym mhob amgylchiad

    2.7 deall pwysigrwydd, a gallu sicrhau cydsyniad dilys, sy’n wirfoddol ac ar sail gwybodaeth, yn rhoi ystyriaeth briodol i alluedd, yn gymesur i’r amgylchiadau ac wedi’i gofnodi’n briodol

    2.8 deall pwysigrwydd galluedd yng nghyd-destun darparu gofal a thriniaeth

    2.9 deall cwmpas dyletswydd gofal proffesiynol, ac arfer y ddyletswydd honno

    2.10 deall deddfwriaeth, polisïau a chanllawiau sy’n berthnasol i’w proffesiwn a chwmpas eu hymarfer a’u rhoi ar waith

    2.11 cydnabod yr anghydbwysedd grym sy’n deillio o fod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a sicrhau nad ydynt yn camddefnyddio hynny er mantais bersonol

    2.12 deall y materion moesegol a chyfreithiol cymhleth sy'n gysylltiedig ag unrhyw berthynas ddeuol a’r effaith y gallai’r rhain ei chael ar ddefnyddwyr y gwasanaeth

    2.13 adnabod ffiniau priodol a deall deinameg perthnasoedd grym

    2.14 deall y cyd-destun o ran trefniadaeth ar gyfer eu hymarfer fel ymarferydd seicoleg

     


  • 3.1 adnabod gorbryder a straen ynddynt hwy eu hunain a chydnabod yr effaith bosib ar eu hymarfer

    3.2 deall pwysigrwydd eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol eu hunain a strategaethau lles o safbwynt cynnal cymhwyster i ymarfer

    3.3 deall sut i gymryd camau gweithredu priodol pe gallai eu hiechyd effeithio ar eu gallu i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys ceisio cymorth a chefnogaeth pan fo angen

    3.4 datblygu a mabwysiadu strategaethau eglur ar gyfer hunan-ofal corfforol a meddyliol a hunan-ymwybyddiaeth, er mwyn cynnal safon uchel o ran effeithiolrwydd proffesiynol ac amgylchedd gweithio diogel.

    3.5 rheoli effeithiau corfforol, seicolegol ac emosiynol eu hymarfer

     


  • 4.1 cydnabod eu bod yn gyfrifol yn bersonol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd, ac yn gallu eu cyfiawnhau

    4.2 defnyddio eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a’r wybodaeth sydd ar gael iddynt, i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a/neu gymryd camau gweithredu ble bo angen

    4.3 gwneud penderfyniadau rhesymegol i gychwyn, parhau, addasu neu roi’r gorau i driniaeth, neu ynglŷn â defnyddio technegau neu ddulliau gweithredu, a chofnodi’r penderfyniadau a’r rhesymeg yn briodol

    4.4 gwneud a derbyn atgyfeiriadau priodol, lle bo angen

    4.5 defnyddio’r gallu i wneud eu penderfyniadau e hunain

    4.6 dangos ymagwedd resymegol a systematig tuag at ddatrys problemau

    4.7 defnyddio sgiliau ymchwil, rhesymu a datrys problemau wrth benderfynu ar gamau gweithredu priodol

    4.8 deall yr angen i gymryd rhan weithredol mewn hyfforddiant, goruchwylio a mentora o safbwynt cynnal safonau ymarfer uchel, ac ymddygiad personol a phroffesiynol, a phwysigrwydd dangos hynny wrth ymarfer

     


  • 5.1 ymateb yn briodol i anghenion pob grŵp ac unigolyn wrth ymarfer, gan sylweddoli y gall hynny gael ei effeithio gan wahaniaeth o unrhyw fath gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig,* profiadau croestoriadol a gwahaniaethau diwylliannol

    5.2 deall deddfwriaeth cydraddoldeb a’i chymhwyso i’w hymarfer

    5.3 cydnabod effaith bosib eu gwerthoedd, eu credoau a’u rhagfarnau personol (a allai fod yn ddiarwybod) ar ymarfer a chymryd camau gweithredu personol er mwyn sicrhau bod holl ddefnyddwyr y gwasanaeth a’r holl ofalwyr yn cael eu trin yn briodol â pharch ac urddas

    5.4 deall y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol o ran ymarfer a gallu gwneud a chefnogi addasiadau rhesymol yn eu hymarfer eu hunain ac ymarfer pobl eraill

    5.5 cydnabod nodweddion a goblygiadau rhwystrau sy'n atal cynhwysiant, gan gynnwys y rhai ar gyfer grwpiau sydd wedi’u hynysu’’n gymdeithasol

    5.6 mynd ati’n weithredol i herio’r rhwystrau hyn, gan gefnogi cyflwyno newid lle bynnag y bo modd

    5.7 cydnabod bod angen i ystyriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gael ei ymgorffori yn y modd y cymhwysir holl safonau’r HCPC, ar draws pob maes ymarfer

    5.8 deall effaith gwahaniaethau o unrhyw fath, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig*, profiadau croestoriadol a gwahaniaethau diwylliannol, ar les seicolegol neu ymddygiad gan gynnwys sut y gallai’r gwahaniaethau hyn esgor ar brofiadau o fod wedi eu hymyleiddio

    5.9 deall yr angen i addasu ymarfer i ddiwallu anghenion grwpiau ac unigolion gwahanol

    *Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio’r nodweddion gwarchodedig fel oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn diogelu oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

     


  • 6.1 cadw at ddyletswydd broffesiynol cyfrinachedd a deall pryd y gall fod angen datgelu

    6.2 deall egwyddorion llywodraethu gwybodaeth a data a bod yn ymwybodol o ddefnydd diogel ac effeithiol o wybodaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwybodaeth berthnasol arall

    6.3 adnabod ac ymateb yn amserol i sefyllfaoedd lle mae angen rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a/neu’r cyhoedd yn ehangach

    6.4 deall yr angen i sicrhau y cynhelir cyfrinachedd ym mhob sefyllfa ble mae defnyddwyr y gwasanaeth yn dibynnu ar gymorth ychwanegol i gyfathrebu (megis dehonglwyr neu gyfieithwyr)

    6.5 deall bod cysyniadau cyfrinachedd a chydsyniad ar sail gwybodaeth yn ymestyn i bob cyfrwng, gan gynnwys cofnodion clinigol darluniadol megis ffotograffau, recordiadau fideo a sain a llwyfannau digidol

     


  • 7.1 defnyddio sgiliau llafar a dieiriau effeithiol a phriodol i gyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, cydweithwyr ac eraill

    7.2 cyfathrebu yn Saesneg i’r safon ofynnol ar gyfer eu proffesiwn (yn cyfateb i lefel 7 System Ryngwladol Profi’r Saesneg (IELTS), heb unrhyw elfen islaw 6.5*)

    7.3 deall nodweddion a goblygiadau cyfathrebu llafar a dieiriau a sylweddoli sut mae’r rhain yn gallu cael eu heffeithio gan wahaniaeth o unrhyw fath gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, nodweddion gwarchodedig,** profiadau croestoriadol a gwahaniaethau diwylliannol

    7.4 gweithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth a/neu eu gofalwyr i hwyluso’r rôl a ffeafrir gan ddefnyddiwr y gwasanaeth wrth wneud penderfyniadau, a rhoi’r wybodaeth y gall fod ei hangen arnynt i ddefnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr ble bo hynny’n briodol

    7.5 addasu eu dull o gyfathrebu er mwyn ateb anghenion a dewisiadau cyfathrebu unigol defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, a dileu unrhyw rwystrau rhag cyfathrebu lle bo modd

    7.6 deall yr angen i gefnogi anghenion cyfathrebu defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, megis trwy ddefnhyddio cyfieithydd neu ddehonglydd priodol

    7.7 defnyddio technolegau gwybodaeth, cyfathrebu a digidol sy’n briodol ar gyfer eu hymarfer

    7.8 deall yr angen i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ddefnyddwyr y gwasanaeth neu i bobl sy’n gweithredu ar eu rhan, mewn fformatau hygyrch, er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth

    7.9 dethol y modd priodol o gyfleu adborth i ddefnyddwyr y gwasanaeth

    7.10 darparu barn a chyngor seicolegol mewn lleoliadau ffurfiol, fel y bo’n briodol

    7.11 cyfleu syniadau a chasgliadau yn eglur ac effeithiol i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr

    7.12 egluro natur a diben technegau seicolegol penodol i ddefnyddwyr y gwasanaeth

    7.13 crynhoi a chyflwyno syniadau cymhleth ar ffurf briodol

    7.14 defnyddio fformwleiddiadau i gefnogi cyfathrebu a dealltwriaeth aml-broffesiwn

    7.15 deall cyfathrebiadau echblyg a goblygedig mewn perthynas ymarferydd–defnyddiwr gwasanaeth

    7.16 diffinio a chontractio gwaith mewn modd priodol gyda defnyddwyr gwasanaethau sy'n comisiynu neu eu cynrychiolwyr

    Seicolegwyr cwnsela yn unig

    7.17 deall sut gellir cefnogi dealltwriaeth empathig â chreadigrwydd a chelfyddyd yn y defnydd o iaith a throsiadau

    * Mae’r System Ryngwladol Profi Saesneg (IELTS) yn profi hyfedredd yn y Saesneg. Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad ydy’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ac nad ydynt yn ymgeisio trwy Lwybr Cyd-gydnabod y Swistir (SMR) ddarparu tystiolaeth i gadarnhau eu bod wedi cyflawni'r safon angenrheidiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Datganiad ar anghenion hyfedredd yn y Saesneg ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal sydd wedi’u hyfforddi’n rhyngwladol.

    ** Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio’r nodweddion gwarchodedig fel oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn diogelu oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

     


  • 8.1 gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, cydweithwyr ac eraill

    8.2 cydnabod egwyddorion ac arferion gweithwyr proffesiynol a systemau iechyd a gofal eraill a’r ffordd maent yn rhyngweithio â’u proffesiwn hwythau

    8.3 deall yr angen i ddatblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol fel ymarferydd ymreolus ac hefyd yn gydweithredol fel aelod o dîm

    8.4 cyfrannu’n effeithiol at waith a gaiff ei gyflawni fel rhan o dîm amlddisgyblaethol

    8.5 adnabod gorbryder a straen yn nefnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr, gan addasu eu hymarfer a darparu cefnogaeth lle bo’n briodol

    8.6 deall rhinweddau, ymddygiadau a manteision arwain

    8.7 cydnabod bod arwain yn sgil y gall pob gweithiwr proffesiynol ei ddangos

    8.8 adnabod eu rhinweddau, ymddygiadau a dulliau gweithio arweiniol eu hunain, gan ystyried pwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

    8.9 dangos ymddygiadau arweiniol sy’n briodol yn eu hymarfer

    8.10 bod yn ddelfryd ymddwyn i eraill

    8.11 hyrwyddo ac ymwneud â dysgu pobl eraill

    8.12 deall yr angen i ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr wrth gynllunio a gwerthuso asesiadau, triniaethau ac ymyriadau er mwyn diwallu eu hanghenion a chyflawni eu nodau

    8.13 deall yr angen i gyflawni ymyriadau, cynlluniau gofal neu gynlluniau rheoli trwy bartneriaeth â defnyddwyr y gwasanaeth, gweithwyr proffesiynol eraill a gofalwyr

    8.14 sefydlu, datblygu a therfynu perthynas ymarferydd–defnyddiwr gwasanaeth

    8.15 deall y ddeinameg a geir mewn perthnasoedd rhwng defnyddwyr gwasanaethau ac ymarferwyr

    8.16 cynllunio, dylunio a darparu addysg a hyfforddiant sy’n ystyried anghenion a nodau’r cyfranogwyr

    8.17 cefnogi dysgu gan eraill o safbwynt cymhwyso sgiliau, gwybodaeth, ymarferion a thriniaethau seicolegol

    8.18 pennu a defnyddio fformiwleiddiadau seicolegol priodol mewn partneriaeth â defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn hwyluso eu dealltwriaeth o’u profiad neu eu sefyllfa

     


  • 9.1 cadw cofnodion llawn, eglur a chywir yn unol â deddfwriaeth, protocolau a chanllawiau perthnasol

    9.2 rheoli cofnodion a phob gwybodaeth arall yn unol â deddfwriaeth, protocolau a chanllawiau perthnasol

    9.3 defnyddio offer cadw cofnodion digidol, lle bo angen

     


  • 10.1 deall gwerth ymarfer myfyriol a’r angen i gofnodi canlyniad myfyrio o’r fath er mwyn cefnogi gwella parhaus

    10.2 cydnabod gwerth adolygiadau amlddisgyblaethol, cynadleddau achosion a dulliau eraill o adolygu

    10.3 myfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer ac ystyried ffyrdd amgen o weithio

    10.4 deall modelau goruchwylio a'u cyfraniad at ymarfer

    Seicolegwyr clinigol a seicolegwyr cwnsela yn unig

    10.5 myfyrio’n feirniadol ar y defnydd o’r hunan yn y broses therapiwtig

     


  • 11.1 ymwneud ag ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    11.2 casglu a defnyddio adborth a gwybodaeth, gan gynnwys data ansoddol a meintiol, er mwyn gwerthuso ymateb defnyddwyr y gwasanaeth i’w gofal

    11.3 monitro a gwerthuso ansawdd yr ymarfer yn systematig, a chynnal proses rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd effeithiol tra’n gweithio tuag at wella’n barhaus

    11.4 ymwneud â rheolaeth ansawdd, gan gynnwys rheoli ansawdd, sicrhau ansawdd, llywodraethu clinigol a’r defnydd o ddulliau priodol i fesur canlyniadau

    11.5 gwerthuso cynlluniau gofal neu gynlluniau ymyrryd gan ddefnyddio dulliau priodol i fesur canlyniadau, ar y cyd a defnyddiwr y gwasanaeth lle bo modd, ac adolygu’r cynlluniau yn ôl yr angen

    11.6 cydnabod gwerth casglu a defnyddio data ar gyfer rhaglenni sicrhau a gwella ansawdd

    11.7 adolygu fformiwleiddiadau yng ngoleuni ymyrraeth sydd ar y gweill a, pan fo angen, ailfformiwleiddio’r sefyllfa

    11.8 monitro cytundebau ac arferion gyda defnyddwyr y gwasanaeth, grwpiau a sefydliadau

     


  • 12.1 gwerthfawrogi, a dwyn gwybodaeth yn rhagweithiol o, brofiadau byw o iechyd a salwch, yn ogystal ag effeithiau anablu ac allgáu cymdeithasol, ac ystyried hynny ochr yn ochr â gwybodaeth ddiagnostig sy’n berthnasol i’w proffesiwn

    12.2 dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion a ffyrdd o gymhwyso ymholi gwyddonol, gan gynnwys gwerthuso effeithiolrwydd triniaethau a’r broses ymchwil

    12.3 cydnabod rôl/rolau gweithwyr proffesiynol eraill mewn iechyd a gofal a deall sut y gallant fod yn gysylltiedig â rôl therapyddion celfyddydau o fewn y timau integredig sy’n gwasanaethu cymunedau

    12.4 deall strwythur a swyddogaeth systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig

    12.5 deall sail ddamcaniaethol asesu ac ymyrryd, a’r amrywiaeth o ddulliau ar gyfer eu cyflawni

    12.6 deall rôl yr ymarferydd seicoleg ar draws ystod o leoliadau a gwasanaethau

    12.7 deall sut y caiff modelau ymgynghori eu cymhwyso wrth gyflwyno gwasanaeth ac ymarfer, gan gynnwys rôl arwain a phrosesau grŵp

    Seicolegwyr clinigol yn unig

    12.8 deall damcaniaethau a thystiolaeth ynglŷn â datblygiad seicolegol ac anawsterau seicolegol drwy gydol oes a sut cânt eu hasesu a’u hunioni

    12.9 deall mwy nag un model o therapi seicolegol ffurfiol sydd â sail tystiolaethol

    12.10 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig â’r modd y mae ffactorau biolegol, cymdeithasegol ac amgylchiadol neu rai sy’n gysylltiedig â digwyddiadau bywyd yn gwrthdaro â phrosesau seicolegol ac yn cael effaith ar les seicolegol

    12.11 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig ag ystod o gyflwyniadau gan gynnwys:
    - defnyddwyr gwasanaeth â chyflyrau sy’n amrywio o rai aciwt i rai parhaus ac o rai ysgafn i rai difrifol;
    - problemau ag agweddau biolegol neu niwroseicolegol; a
    - phroblemau â ffactorau sy’n seicogymdiethasol yn bennaf gan gynnwys problemau ymdopi, ymaddasu a gwytnwch yn wyneb amgylchiadau anffafriol a digwyddiadau bywyd, gan gynnwys profedigaeth a chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol cronig eraill

    12.12 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig â defnyddwyr y gwasanaeth:
    - o amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol;
    - o bob oed;
    - ar draws ystod o ran gweithrediad deallusol;
    - â lefelau arwyddocaol o ymddygiad heriol;
    - ag anableddau dysgu datblygiadol a namau gwybyddol;
    - ag anawsterau cyfathrebu;
    - â phroblemau camddefnyddio sylweddau; ac
    - â phroblemau iechyd corfforol

    12.13 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig â gweithio:
    - gyda defnyddwyr y gwasanaeth, cyplau, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, ac ar lefel sefydliad a chymuned; ac
    - mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys cyfleusterau cleifion mewnol neu gyfleusterau eraill ar gyfer cleifion preswyl sydd ag anghenion dibyniaeth fawr, gofal iechyd eilaidd a gofal cymunedol neu sylfaenol

    12.14 deall prosesau newid a thrawsnewid ar lefelau unigolyn, grŵp a sefydliad

    12.15 deall dulliau cymdeithasol megis y rhai sy’n seiliedig ar wybodaeth o safbwyntiau cymunedol, beirniadol a lluniadaeth gymdeithasol

    12.16 deall effaith ymyriadau seicoffarmacolegol ac ymyriadau clinigol eraill ar waith seicolegol gyda defnyddwyr y gwasanaeth

    Seicolegwyr cwnsela yn unig

    12.17 deall y sylfeini athronyddol sy’n sail i’r damcaniaethau seicolegol hynny

    12.18 deall athroniaeth, damcaniaeth ac ymarfer mwy nag un model o therapi seicolegol ffurfiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth

    12.19 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig ag ystod o gyflyrau gan gynnwys:
    - defnyddwyr gwasanaeth â chyflyrau sy’n amrywio o rai aciwt i rai parhaus ac o rai ysgafn i rai difrifol;
    - problemau ag agweddau biolegol neu niwroseicolegol; a
    - phroblemau â ffactorau sy’n seicogymdiethasol yn bennaf gan gynnwys problemau ymdopi, ymaddasu a gwytnwch yn wyneb amgylchiadau anffafriol a digwyddiadau bywyd, gan gynnwys profedigaeth a chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol cronig eraill

    12.20 deall y berthynas a’r gynghrair therapiwtig fel y cânt eu cysyniadu gan bob model

    12.21 deall y traddodiadau a’r arferion ysbrydol a diwylliannol sy’n berthnasol i seicoleg cwnsela a’r modd y cânt eu cymhwyso ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr, yn ogystal ag amrywiadau ar lefelau sefydliad a chymuned

    12.22 deall y prif baradeimau athronyddol sy’n llywio theori seicolegol gan ystyried yn benodol eu perthnasedd i, a’u heffaith ar, ddealltwriaeth o oddrychedd a rhyng-oddrychedd profiad drwy gydol datblygiad dynol

    12.23 deall damcaniaethau ynglŷn â gweithrediad gwybyddol, emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol a ffisiolegol dynol sy’n berthnasol i seicoleg cwnsela gan gynnwys pobl o bob oed a diwylliant;
    - ar draws ystod o ran gweithrediad deallusol;
    - â lefelau arwyddocaol o ymddygiad heriol;
    - ag anableddau dysgu datblygiadol a namau gwybyddol;
    - ag anawsterau cyfathrebu;
    - â phroblemau camddefnyddio sylweddau; ac
    - â phroblemau iechyd corfforol

    12.24 deall damcaniaethau gwahanol ynglŷn â datblygu gydol oes a sut cânt eu hasesu a’u hunioni

    12.25 deall cyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol mewn modd sy’n seiliedig ar wybodaeth o bersbectifau cymunedol, beirniadol a lluniadaeth gymdeithasol 

    12.26 deall damcaniaethau seicobatholeg a newid gan gynnwys prosesau trawsnewid ar lefelau unigolyn, grŵp a sefydliad 

    12.27 deall effaith seicoffarmacoleg ac ymyriadau eraill ar waith seicolegol gyda defnyddwyr y gwasanaeth

    Seicolegwyr addysg yn unig

    12.28 deall rôl y seicolegydd addysg ar draws ystod o leoliadau a gwasanaethau ysgol a chymunedol

    12.29 deall y ffactorau addysgol ac emosiynol sy’n hwyluso neu’n rhwystro darpariaeth addysgu a dysgu effeithiol

    12.30 deall damcaniaethau seicolegol, a thystiolaeth ymchwil, mewn datblygiad plant, y glasoed ac oedolion ifanc, sy’n berthnasol i seicoleg addysg

    12.31 deall strwythurau a systemau ystod eang o leoliadau ble caiff addysg, iechyd a gofal eu darparu i blant, y glasoed ac oedolion ifanc, gan gynnwys gweithdrefnau diogelu plant

    12.32 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig â dylanwad ethos a diwylliant ysgol, cwricwla addysgol, systemau cyfathrebu, rheolaeth ac arddulliau arwain ar ddatblygiad gwybyddol, ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol plant, y glasoed ac oedolion ifanc

    12.33 deall modelau seicolegol o’r ffactorau sy’n arwain at dangyflawni, dadrithio, ac allgáu cymdeithasol ymhlith grwpiau sy’n agored i niwed

    12.34 deall damcaniaethau a thystiolaeth sy’n sail i ymyriadau seicolegol gyda phlant, y glasoed, oedolion ifanc, ei rheni neu ofalwyr, a gweithwyr proffesiynol addysg ac eraill

    12.35 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig â’r dylanwad ar ddatblygiad plant, y glasoed ac oedolion ifanc sy’n deillio o:
    - strwythurau a phrosesau teuluol;
    - cyd-destunau diwylliannol a chymunedol; a
    - threfniadaeth a systemau

    12.36 deall prosesau newid a thrawsnewid ar lefel unigolyn, grŵp a sefydliad

    12.37 deall sail ddamcaniaethol ymgynghori ac asesu, a’r amrywiaeth o ddulliau ar gyfer eu cyflawni mewn seicoleg addysg

    12.38 deall effaith systemau ysgol a’r cwricwlwm addysgol, gan gynnwys y fframwaith cyfreithiol sy’n gysylltiedig â chymorth a chyllido mewn ysgolion, ar blant a phobl ifanc

    12.39 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig ag ystod o gyflwyniadau gan gynnwys:
    - defnyddwyr gwasanaeth â chyflyrau sy’n amrywio o rai aciwt i rai parhaus ac o rai ysgafn i rai difrifol;
    - problemau ag agweddau biolegol neu niwroseicolegol; a
    - phroblemau â ffactorau sy’n seicogymdiethasol yn bennaf gan gynnwys problemau ymdopi, ymaddasu a gwytnwch yn wyneb amgylchiadau anffafriol a digwyddiadau bywyd, gan gynnwys profedigaeth a chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol cronig eraill

    12.40 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig â defnyddwyr y gwasanaeth:
    - o amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol;
    - o bob oed;
    - ar draws ystod o ran gweithrediad deallusol;
    - â lefelau arwyddocaol o ymddygiad heriol;
    - ag anableddau dysgu datblygiadol a namau gwybyddol;
    - ag anawsterau cyfathrebu;
    - â phroblemau camddefnyddio sylweddau; ac
    - â phroblemau iechyd corfforol

    Seicolegwyr fforensig yn unig

    12.41 deall sut caiff seicoleg ei gymhwyso yn y system gyfreithiol

    12.42 deall sut y caiff ystod o safbwyntiau damcaniaethol eu cymhwyso a’u hintegreiddio ag ymddygiadau sy’n niweidiol yn gymdeithasol ac i’r unigolyn, gan gynnwys safbwyntiau seicolegol, cymdeithasol a biolegol

    12.43 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig ag ystod o gyflyrau gan gynnwys:
    - defnyddwyr gwasanaeth â chyflyrau sy’n amrywio o rai aciwt i rai parhaus ac o rai ysgafn i rai difrifol;
    - problemau ag agweddau biolegol neu niwroseicolegol; a
    - phroblemau â ffactorau sy’n seicogymdiethasol yn bennaf gan gynnwys problemau ymdopi, ymaddasu a gwytnwch yn wyneb amgylchiadau anffafriol a digwyddiadau bywyd, gan gynnwys profedigaeth a chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol cronig eraill

    12.44 deall damcaniaethau seicolegol a sut cânt eu cymhwyso ar gyfer darparu therapïau seicolegol sy’n canolbwyntio ar droseddwyr a’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil troseddau

    12.45 deall dulliau asesu effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n ymddwyn mewn modd sy’n niweidiol i’r unigolyn neu yn gymdeithasol

    12.46 deall datblygiad ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol

    12.47 deall yr ymyriadau seicolegol sy’n gysylltiedig â grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y rhai sydd wedi dioddef yn sgil troseddau, troseddwyr, ymgyfreithwyr, apelyddion ac unigolion sy’n ceisio cyflafareddiad a chyfryngu

    Seicolegwyr iechyd yn unig

    12.48 deall cyd-destun a safbwyntiau mewn seicoleg iechyd

    12.49 deall epidemioleg iechyd ac afiechyd

    12.50 deall:
    - mecanweithiau biolegol iechyd ac afiechyd
    - gwybyddiaethau ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd;
    - straen, iechyd ac afiechyd;
    - gwahaniaethau unigol mewno ran iechyd ac afiechyd;
    - safbwyntiau gydol-oes, rhai yn ymwneud â rhywedd a rhai trawsddiwylliannol; a
    - chyflyrau ac anabledd hirdymor

    12.51 deall sut y caiff seicoleg iechyd ei gymhwyso a materion proffesiynol

    12.52 deall gofal iechyd mewn lleoliadau proffesiynol

    12.53 deall modelau seicolegol sy’n gysylltiedig â’r modd y mae ffactorau biolegol, cymdeithasegol ac amgylchiadol neu rai sy’n gysylltiedig â digwyddiadau bywyd yn gwrthdaro â phrosesau seicolegol

    Seicolegwyr galwedigaethol yn unig

    12.54 deall y canlynol mewn seicoleg alwedigaethol:
    - asesu seicolegol yn y gwaith;
    - dysgu, hyfforddiant a datblygu;
    - arweinyddiaeth, ymgysylltu a chymhelliant;
    - llesiant yn y gwaith; a
    - dylunio gwaith, newid a datblygiad trefniadol

    Seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer yn unig

    12.55 deall prosesau gwybyddol, gan gynnwys sgiliau echddygol, sgiliau ymarfer, dysgu a chanfyddiad; a hunanreoleiddio

    12.56 deall sgiliau seicolegol megis:
    - gosod nodau;
    - hunansiarad;
    - delweddu;
    - defodau cyn perfformio;
    - rheoli cynnwrf, megis trwy ymlacio ac actifadu; a
    - strategaethau ar gyfer rheoli straen ac emosiwn

    12.57 deall ymarfer corff a gweithgarwch corfforol gan gynnwys:
    - penderfynyddion megis cymhellion, rhwystrau ac ymlyniad;
    - canlyniadau mewn perthynas ag affaith, megis hwyliau ac emosiwn;
    - materion gwybyddiaeth ac iechyd meddwl, megis hunan-barch, anhwylderau bwyta, iselder a dibyniaeth ar ymarfer corff;
    - ffordd o fyw ac ansawdd bywyd; ac
    - anafiadau

    12.58 deall gwahaniaethau rhwng unigolion gan gynnwys:
    - gwydnwch, caledwch a chydnerthedd meddyliol;
    - personoliaeth;
    - hyder;
    - cymhelliant;
    - hunangysyniad a hunan-barch; a
    - straen ac ymdopi

    12.59 deall prosesau cymdeithasol o fewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff gan gynnwys:
    - sgiliau rhyngbersonol a pherthnasoedd;
    - deinameg a gweithrediad grwpiau;
    - materion trefniadaeth; ac
    - arweinyddiaeth

    12.60 deall effaith prosesau datblygu gan gynnwys materion gydol oes a phrosesau sy’n gysylltiedig â thrawsnewid a therfynu gyrfaoedd

     


  • 13.1 newid eu hymarfer yn ôl yr angen er mwyn ystyried datblygiadau a thechnolegau newydd a chyd-destunau sy’n newid

    13.2 casglu gwybodaeth briodol

    13.3 dadansoddi’r wybodaeth a gesglir a'i gwerthuso'n feirniadol

    13.4 dethol a defnyddio technegau a chyfarpar asesu priodol

    13.5 cynnal a chofnodi asesiadau trylwyr, sensitif a manwl

    13.6 cynnal neu drefnu ymchwiliadau yn unol â’r hyn sy’n briodol

    13.7 cyflawni gweithdrefnau asesu neu fonitro, triniaeth, therapi neu weithredoedd eraill priodol yn ddiogel ac yn effeithiol

    13.8 adnabod ystod o fethodolegau ymchwil sy’n berthnasol i’w rôl

    13.9 cydnabod gwerth ymchwil o safbwynt gwerthuso ymarfer yn feirniadol

    13.10 gwerthuso ymchwil a thystiolaeth arall yn feirniadol er mwyn llywio eu hymarfer eu hunain

    13.11 cynnwys defnyddwyr y gwasanaeth mewn ymchwil fel y bo’n briodol

    13.12 cymhwyso seicoleg ar draws amrywiaeth o gyd-destunau gwahanol gan ddefnyddio amrywiaeth o fodelau, fframweithiau a pharadeimau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a damcaniaethau

    13.13 ymgymryd â gwaith ymgynghori

    13.14 llunio cynlluniau rheoli penodol a phriodol gan gynnwys gosod amserlenni

    13.15 rheoli adnoddau er mwyn cyflawni yn unol ag amserlenni ac amcanion cytunedig prosiectau

    13.16 defnyddio fformwleiddiadau seicolegol i gynllunio ymyriadau priodol sy’n ystyried safbwynt defnyddiwr y gwasanaeth

    13.17 cyfarwyddo gweithrediad cymwysiadau ac ymyriadau a gyflawnir gan eraill

    13.18 llunio barn yn seiliedig ar wybodaeth ar faterion cymhleth pan na fydd gwybodaeth gyflawn ar gael

    13.19 gweithio'n effeithiol gan gadw esboniadau gwahanol mewn cof

    13.20 cyffredinoli a chyfuno gwybodaeth a phrofiad blaenorol er mwyn eu cymhwyso’n feirniadol ac yn greadigol mewn gwahanol amgylchiadau a sefyllfaoedd newydd

    13.21 dewis a defnyddio ystod eang o ddulliau asesu seicolegol, sy’n briodol i ddefnyddiwr y gwasanaeth, yr amgylchedd a’r math o ymyriad sy’n debygol o fod yn ofynnol

    13.22 penderfynu sut i asesu, fformiwleiddio ac ymyrryd yn seicolegol o amrywiaeth o fodelau a dulliau ymyrryd posibl gyda defnyddwyr y gwasanaeth neu systemau gwasanaeth

    13.23 defnyddio gweithdrefnau asesu ffurfiol, gweithdrefnau cyfweld systematig a dulliau asesu strwythuredig eraill sy'n berthnasol i'w maes

    13.24 gwerthuso risgiau a'u goblygiadau yn feirniadol

    13.25 cydnabod pan fydd ymyrraeth bellach yn amhriodol, neu’n annhebygol o fod yn ddefnyddiol

    13.26 cychwyn, cynllunio, datblygu a chynnal ymchwil seicolegol a'i werthuso'n feirniadol

    13.27 deall a defnyddio technegau cymwys ar gyfer ymchwil ac ymholi academaidd, gan gynnwys dulliau ansoddol a meintiol

    13.28 defnyddio sgiliau proffesiynol ac ymchwil wrth weithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn seiliedig ar fodel gwyddonydd-ymarferydd ac ymarferydd adfyfyriol sy’n ymgorffori cylch asesu, fformiwleiddio, ymyrryd a gwerthuso

    13.29 deall a chymhwyso moeseg ymchwil

    13.30 cynnal gwerthusiadau o'r gwasanaeth a gwerthusiadau ar raddfa fawr

     

    Seicolegwyr clinigol yn unig 

    13.31 asesu cyd-destun cymdeithasol a nodweddion trefniadaeth

    13.32 datblygu fformiwleiddiadau seicolegol gan ddefnyddio canlyniadau asesiadau. gan ddefnyddio damcaniaethau, ymchwil a modelau esboniadol

    13.33 defnyddio gwybodaeth am brosesau datblygu, cymdeithasol a niwroseicolegol drwy gydol oes er mwyn hwyluso hyblygrwydd a newid mewn unigolion, grwpiau, teuluoedd, sefydliadau a chymunedau

    13.34 deall technegau a phrosesau therapiwtig fel y cânt eu cymhwyso wrth weithio gydag ystod o unigolion sy'n drallodus gan gynnwys:
    - y rhai sy’n profi anawsterau sy’n gysylltiedig â gorbryder, hwyliau, addasu i amgylchiadau anffafriol neu ddigwyddiadau bywyd, bwyta, seicosis, defnyddio sylweddau; a'r
    - rhai sydd â chyflyrau somatoffurf, seicorywiol, datblygol, personoliaeth, gwybyddol a niwrolegol

    13.35 darparu therapïau seicolegol priodol a ddysgwyd trwy astudio ac ymarfer dan oruchwyliaeth ac a gynhelir trwy gyfrwng goruchwyliaeth reolaidd barhaus

    13.36 gweithredu, ar sail fformiwleiddio seicolegol, therapi seicolegol neu ymyriadau eraill sy’n briodol ar gyfer y broblem a amlhygir ac i amgylchiadau seicolegol a chymdeithasol defnyddiwr y gwasanaeth

    13.37 gweithredu ymyriadau therapiwtig ar sail ystod o fodelau o therapi seicolegol ffurfiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lefelau hyfedredd a bennwyd, gan gynnwys defnydd o therapi ymddygiad gwybyddol

    13.38 hyrwyddo ymwybyddiaeth o wir gyfraniad a chyfraniad posib gwasanaethau seicoleg

    13.39 gwerthuso ac ymateb i newidiadau mewn trefniadaeth a darpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys darparu ymgynghoriadau

    13.40 deall a gallu gweithredu a darparu cyngor ynglŷn a pholisi sy’n ymwneud ag iechyd a gofal

    Seicolegwyr cwnsela yn unig

    13.41 cyferbynnu ystod o fodelau therapi, eu cymharu a'u gwerthuso'n feirniadol

    13.42 defnyddio gwybodaeth am brosesau datblygu, cymdeithasol a niwroseicolegol gydol oes er mwyn hwyluso hyblygrwydd a newid mewn unigolion, grwpiau, teuluoedd, sefydliadau a chymunedau

    13.43 gwerthuso damcaniaethau am y meddwl a phersonoliaeth yn feirniadol

    13.44 deall therapi drwy gyfrwng eu profiad bywyd eu hunain

    13.45 addasu ymarfer er mwyn ystyried natur perthnasoedd drwy gydol oes

    13.46 fformiwleiddio pryderon defnyddwyr y gwasanaeth o fewn y modelau therapiwtig a ddewisir

    13.47 gwerthuso seicoffarmacoleg a’i effeithiau yn feirniadol ar sail ymchwil ac ymarfer

    13.48 gwerthuso damcaniaethau seicobatholeg yn feirniadol a newid

    13.49 gweithredu, ar sail fformiwleiddio seicolegol, therapi seicolegol neu ymyriadau eraill sy’n briodol ar gyfer y broblem a gyflwynir ac i amgylchiadau seicolegol a chymdeithasol defnyddiwr y gwasanaeth

    13.50 gweithredu ymyriadau therapiwtig ar sail ystod o fodelau o therapi seicolegol ffurfiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    13.51 hyrwyddo ymwybyddiaeth o wir gyfraniad a chyfraniad posib gwasanaethau seicoleg

    13.52 gwerthuso ac ymateb i newidiadau mewn trefniadaeth a darpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys darparu ymgynghoriadau

    Seicolegwyr addysg yn unig 

    13.53 datblygu fformiwleiddiadau seicolegol gan ddefnyddio canlyniadau asesiadau a defnyddio damcaniaethau, ymchwil a modelau esboniadol

    13.54 casglu a dadansoddi data ar raddfa fawr, gan gynnwys arolygon trwy holiadur

    13.55 gweithio gyda phartneriaid allweddol i gefnogi’r gwaith o gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu canlyniadau gweithgaredd ymchwil ac i gefnogi ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    13.56 llunio ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i gefnogi mentrau lleol a chenedlaethol

    13.57 datblygu a chymhwyso ymyriadau effeithiol er mwyn hyrwyddo lles seicolegol, datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac i godi safonau addysgol

    13.58 gweithredu ymyriadau a chynlluniau sy’n seiliedig ar dystiolaeth trwy ac ar y cyd â phroffesiynau eraill gyda phlant a phobl ifanc, rhieni a/neu ofalwyr

    13.59 mabwysiadu dull rhagweithiol ac ataliol er mwyn hyrwyddo lles seicolegol defnyddwyr y gwasanaeth

    13.60 dewis a defnyddio ystod eang o ymyriadau seicolegol sy’n briodol ar gyfer anghenion defnyddiwr y gwasanaeth a’r lleoliad

    13.61 integreiddio a gweithredu dulliau therapiwtig ar sail ystod o ymyriadau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    13.62 hyrwyddo ymwybyddiaeth o wir gyfraniad a chyfraniad posib gwasanaethau seicoleg

    Seicolegwyr fforensig yn unig

    13.63 cynllunio a llunio rhaglenni hyfforddi a datblygu

    13.64 cynllunio a llunio trefniadau asesu ar gyfer rhaglenni hyfforddi

    13.65 hyrwyddo ymwybyddiaeth o wir gyfraniad a chyfraniad posib gwasanaethau seicoleg

    13.66 asesu cyd-destun cymdeithasol a nodweddion trefniadaeth

    13.67 ymchwilio i, a datblygu dulliau, cysyniadau, modelau, damcaniaethau a chyfryngau seicolegol mewn seicoleg fforensig

    13.68 gwerthuso ac ymateb i newidiadau mewn trefniadaeth a darpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys darparu ymgynghoriadau

    13.69 defnyddio gwybodaeth am newidiadau a chyfyngiadau datblygol a chymdeithasol trwy gydol oes unigolyn er mwyn hwyluso hyblygrwydd a newid

    13.70 gweithredu ymyriadau a chynlluniau gofal drwy gyfrwng ac ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n rhan o dîm gofal defnyddiwr y gwasanaeth

    13.71 gweithrediu, ar sail fformiwleiddio seicolegol sydd â sail empirig, therapi seicolegol neu ymyriadau eraill sy’n briodol ar gyfer yr ymddygiad camaddasol neu gymdeithasol niweidiol a gyflwynir gan ddefnyddiwr y gwasanaeth

    13.72 integreiddio a gweithredu therapi seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth naill ai ar lefel unigolyn neu lefel grŵp

    Seicolegwyr iechyd yn unig

    13.73 cynllunio a dylunio trefniadau asesu ar gyfer rhaglenni hyfforddi

    13.74 datblygu asesiadau seicolegol priodol yn seiliedig ar werthuso dylanwad y cyd-destun biolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol

    13.75 datblygu fformiwleiddiadau seicolegol gan ddefnyddio canlyniadau asesiadau a defnyddio damcaniaethau, ymchwil a modelau esboniadol

    13.76 casglu a dadansoddi data ar raddfa fawr, gan gynnwys arolygon trwy holiadur

    13.77 defnyddio gwybodaeth am brosesau datblygu, cymdeithasol a biolegol drwy gydol oes er mwyn hwyluso hyblygrwydd a newid mewn unigolion, grwpiau, teuluoedd, sefydliadau a chymunedau

    13.78 cyferbynnu, cymharu a gwerthuso’n feirniadol ystod o fodelau newid ymddygiad

    13.79 deall technegau a phrosesau a gymhwysir wrth weithio gydag unigolion gwahanol sydd yn profi anawsterau

    13.80 datblygu a chymhwyso ymyriadau effeithiol er mwyn hyrwyddo lles seicolegol, datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac i godi safonau addysgol

    13.81 gwerthuso ac ymateb i newid mewn seicoleg iechyd ac mewn cyd-destunau ymgynghorol a darparu gwasanaethau

    13.82 gweithredu, ar sail fformiwleiddio seicolegol, therapi seicolegol neu ymyriadau eraill sy’n briodol ar gyfer y broblem a gyflwynir ac i amgylchiadau seicolegol a chymdeithasol defnyddiwr y gwasanaeth

    13.83 integreiddio a gweithredu dulliau therapiwtig ar sail ystod o ymyriadau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    13.84 dewis a defnyddio ystod eang o ymyriadau seicolegol sy’n briodol ar gyfer anghenion defnyddiwr y gwasanaeth a’r lleoliad

    Seicolegwyr galwedigaethol yn unig

    13.85 asesu unigolion, grwpiau a sefydliadau yn fanwl

    13.86 defnyddio’r cylch ymgynghori

    13.87 ymchwilio i, a datblygu dulliau, cysyniadau, modelau, damcaniaethau a chyfryngau seicolegol mewn seicoleg alwedigaethol

    13.88 defnyddio damcaniaeth seicolegol i lywio datrysiadau ymchwil er lles sefydliadau ac unigolion

    13.89 deall a gweithredu a darparu cyngor ar ddatblygiad polisi sy’n ymwneud â hawliau gweithwyr cyflogedig a cheiswyr swyddi

    13.90 cynnal, cyfarwyddo, hyfforddi a monitro eraill wrth weithredu cymhwysiad yn effeithiol

    Seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer yn unig

    13.91 asesu cyd-destun cymdeithasol a nodweddion trefniadaeth

    13.92 datblygu fformiwleiddiadau seicolegol gan ddefnyddio canlyniadau asesiadau a thynnu ar ddamcaniaethau, ymchwil a modelau esboniadol

    13.93 fformiwleiddio pryderon defnyddwyr y gwasanaeth o fewn y modelau ymyrryd a ddewisir

     


  • 14.1 deall yr angen i gynnal eu diogelwch eu hunain a diogelwch eraill, gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr

    14.2 dangos ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a chydymffurfio â’r holl weithdrefnau gweithredu a pholisïau lleol

    14.3 gweithio’n ddiogel, gan gynnwys gallu dethol technegau priodol ar gyfer rheoli peryglon a rheoli, lleihau neu ddileu risgiau, mewn modd diogel ac yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch

    14.4 dethol cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol a’i ddefnyddio’n gywir

    14.5 sefydlu amgylcheddau diogel ar gyfer ymarfer, sy’n rheoli risgiau mewn modd priodol

    Seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer yn unig

    14.6 dangos ymwybyddiaeth o’r risgiau corfforol posib sy’n gysylltiedig â chyd-destunau chwaraeon ac ymarfer corff penodol

     


  • 15.1 deall rôl eu proffesiwn o ran hybu iechyd, addysg iechyd ac atal afiechyd

    15.2 deall sut y gall ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol (penderfynyddion iechyd ehangach) ddylanwadu ar iechyd a lles unigolyn

    15.3 grymuso a galluogi unigolion (gan gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth a chydweithwyr) i chwarae rhan wrth reoli eu hiechyd eu hunain

    15.4 ymwneud ag iechyd galwedigaethol, gan gynnwys bod yn ymwybodol o anghenion brechu

     

Cyhoeddwyd:
01/09/2023
Resources
Standards and guidance
Is-gategori:
Professional standards
Audience
Cofrestredig
Profession
Practitioner psychologists
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 01/12/2023
Top