Skip navigation

Beth ddylwn ni wneud os byddaf yn anfodlon â gweithiwr proffesiynol sydd wedi cofrestru â HCPC ac yn awyddus i gyflwyno cwyn?

Mynegi pryder ynglŷn â gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal.

Os ydych chi’n anfodlon â’r gofal neu’r driniaeth rydych wedi'u cael, gallwch chi gyflwyno cwyn i’ch gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal neu’r sefydliad y maent yn gweithio iddo. Siaradwch â hwy yn gyntaf i weld a oes modd i chi ddatrys y broblem. Mae modd ymdrin â’r rhan fwyaf o faterion yn y modd hwn.

Gallai fod yn bosib i chi gael cymorth i gyflwyno cwyn. Mae’r adran ‘Cysylltiadau eraill’ ar waelod y dudalen hon yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol.

Beth all yr HCPC ei wneud?

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr proffesiynol sydd ar ein Cofrestr yn ymarfer yn ddiogel ac yn bodloni ein safonau. Ar yr achlysuron prin pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, gall unrhyw un fynegi pryder wrthom ni.

Gallwn ni weithredu os oes pryderon difrifol ynglŷn ag ymarfer neu ymddygiad gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal. Byddwn yn gwneud hynny drwy ein proses ‘cymhwyster i ymarfer’. Os byddwn ni’n canfod nad ydy unigolyn wedi bodloni ein safonau, gallwn ni gymryd camau megis dweud wrth weithiwr proffesiynol am ymarfer mewn ffordd benodol neu am ymgymryd â hyfforddiant pellach.

Yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn ni atal gweithiwr proffesiynol rhag ymarfer.

Mynegi pryderon

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 05/12/2023
Top